DOWTK & Welsh Government Safeguarding Campaign

As a company that prides itself on offering parents inspiration on days out with their families, we must have the well-being and safeguarding of kids in mind. 

Find Out More

Are you worried about a child or young person in your family or community?

 Do you know what the common signs are for a young person who may be at risk of harm? The Welsh Government is raising awareness of abuse, neglect and harm to children and has offered the following advice:

 

The most common signs that a child is at risk of harm, abuse or neglect are:

Becoming Withdrawn

Becoming uncharacteristically aggressive

Showing anxious behaviours

Unexplained changes in behaviour or personality

Lack of social skills or has few/no friends

Has a poor relationship with a parent

Has knowledge of adult issues that are inappropriate for their age

Running away or going missing

Always choosing to wear clothes that cover their body

Find Out More

If you have any worries or believe that a young person is at risk, these are the common signs that you can look out for. It’s vital to take the necessary steps to help protect a young person in need. These signs may not always mean a child is being harmed, but they can help the professionals assess the situation and take further action if needed. 

But what can you do to help them? You can call your local social services or call 101.

Your call can make a real difference in keeping a child safe by alerting the right people if you think they need help.

You can make a big difference in keeping children safe!

Find Out More

DOWTK ac Ymgyrch Diogelu Llywodraeth Cymru

Fel cwmni sy’n ymfalchïo mewn cynnig ysbrydoliaeth i rieni ar gyfer diwrnodau allan gyda’u teuluoedd, mae’n rhaid inni ystyried lles a diogelwch plant bob amser. 

Rhagor o wybodaeth

Ydych chi’n poeni am blentyn neu berson ifanc yn eich teulu neu yn eich cymuned?

 Ydych chi’n gwybod beth yw’r arwyddion cyffredin bod person ifanc mewn perygl o niwed? Mae Llywodraeth Cymru yn codi ymwybyddiaeth o gamdriniaeth, esgeulustod a niwed i blant ac wedi cynnig y cyngor canlynol.

 

Yr arwyddion mwyaf cyffredin bod plentyn mewn perygl o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod yw:

Troi’n swil

Ymddwyn yn ymosodol, sy’n anarferol iddyn nhw

Ymddangos yn bryderus

Ymddygiad neu bersonoliaeth yn newid heb esboniad

Diffyg sgiliau cymdeithasol, a dim llawer o ffrindiau os o gwbl

Perthynas wael â rhiant

Gwybod am bethau ym myd oedolion, sy’n amhriodol i’w hoed 

Rhedeg i ffwrdd neu fynd ar goll

Bob amser yn dewis gwisgo dillad sy’n gorchuddio’u corff

Darllen mwy

Os oes gennych unrhyw bryderon neu os ydych yn credu bod person ifanc mewn perygl, dyma’r arwyddion cyffredin y gallwch chi gadw golwg amdanynt. Mae’n hanfodol eich bod yn cymryd y camau angenrheidiol i helpu i amddiffyn person ifanc mewn angen. Efallai na fydd yr arwyddion hyn bob amser yn golygu bod plentyn yn cael ei niweidio, ond gallant helpu’r gweithwyr proffesiynol i asesu’r sefyllfa a chymryd camau pellach os oes angen. 

Ond beth allwch chi ei wneud i’w helpu nhw? Gallwch ffonio eich gwasanaethau cymdeithasol lleol neu ffonio 101.

Gall eich galwad wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gadw plentyn yn ddiogel drwy rybuddio’r bobl iawn os ydych chi’n meddwl bod angen help arnynt.

A pheidiwch â phoeni, gallwch roi gwybod am eich pryderon yn ddienw os ydych chi’n bryderus am ymyrryd. Mae Llywodraeth Cymru yn gwybod y gallai rhoi gwybod am bryderon fod yn frawychus gan y gallech ofni bod eich amheuon yn anghywir. Ond mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, yn erfyn ar bobl i beidio â meddwl ‘Beth os ydw i’n anghywir?’, ac yn hytrach i feddwl ‘Beth os ydw i’n iawn?’. Hefyd, mae Lance Carver, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Bro Morgannwg o’r farn y bydd y gallu i roi gwybodaeth yn ddienw yn gwella hyder pobl i ddod ymlaen gydag unrhyw wybodaeth neu bryderon sydd ganddynt ynglŷn â cham-drin plant yng Nghymru. 

Darllen mwy

Gallwch wneud gwahaniaeth mawr i gadw plant yn ddiogel.

Darllen mwy